Beth ydy SŵnCymru?

Mae SŵnCymru yn orsaf radio ddwyieithog, annibynnol i Gymru

Mae SŵnCymru yn anelu at lenwi'r bwlch yn nhirlun darlledu Cymru trwy gynnig rhaglenni annibynnol sy'n apelio at bobl ifanc ac yn cynrychioli gwahanol ardaloedd o'r wlad. Bydd yr orsaf yn llwyfan i hyrwyddo cerddoriaeth a diwylliant Cymreig.

Nesaf

Sut fydd SŵnCymru yn darlledu?

Trwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, byddem yn darlledu o bob cwr o Gymru i gynulleidfa dros y wlad gyfan.

Bydd hi'n bosib gwrando ar SŵnCymru ar...

  • Ein gwefan

  • Ein ap

  • Radio DAB

  • Cyfryngau Cymdeithasol

Nesaf

Sut gallaf i helpu?

Rydym yn chwilio am bobl sydd â diddordeb mewn cefnogi’r fenter trwy ddod yn noddwyr, trwy hysbysebu ar yr orsaf, trwy weithio ar raglenni neu yn syml - trwy wrando a chodi ymwybyddiaeth.

Os hoffech fod yn rhan o SŵnCymru, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb trwy daro'r botwm isod.

Nesaf